Achos astudiaeth: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Partner arweinydd: David Clubb
Marchnadau clyfar ynni lleol
Cleient: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent/ Llywodraeth Cymru
Sector: Ynni clyfar
Dolen: Gwefan
Roedd Afallen yn rhan o gonsortiwm yn arddangos ffyrdd o chwyldroi marchnadoedd lleol, cysyniad a oedd yn cynnig dod â chynhyrchwyr a defnyddwyr ynni ynghyd a lleihau biliau i bawb.
Y briff
Ymunodd Afallen â thri phartner technegol arall wrth ymateb i friff ar gyfer y Fenter Ymchwil Busnesau Bach. Cawsom y dasg o ddangos sut y gallai gwahanol atebion technolegol gydweithio i wella’r defnydd o ynni adnewyddadwy, a gwneud cyfraniad at leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer yr awdurdod lleol.
Yr ateb
Roedd Afallen yn aelod allweddol o dîm, yn cefnogi modelu economaidd ar effaith cynnydd mawr mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gan wneud cysylltiadau dwys rhwng technoleg a pholisi, a manylu ar yr ymgysylltiad cymunedol sy’n angenrheidiol ar gyfer defnyddio systemau lleihau galw am ynni ar gyfer unedau diwydiannol yn y dyfodol.