Cylchlythr Afallen – Hydref 2024
Ein diweddariadau gweithgaredd arferol, yn ogystal â ffocws ar ein Partner David Clubb.
Beth petai Cymru *go iawn* yn mynd am dwf?
Darllenwch y drydedd yn ein cyfres bryfoclyd o draethodau a gomisiynwyd am economi Cymru gan yr Athro Calvin Jones.
Cymru Net Sero 2035
Roedd partner Afallen David Clubb yn aelod sylwedol o Grŵp Her Net Zero Cymru 2035. Cyhoeddwyd eu holl gyngor a llwybrau ym mis Medi.
Masnacheiddio bwydydd swyddogaethol
Mae Afallen yn cefnogi prosiect cyffrous InnovateUK mewn partneriaeth â Prifysgol Aberystwyth, Llaeth y Llan, Tertrim Teas a Phytoquest, yn ogystal â sefydliadau bwyd Cymreig eraill. Mae’r prosiect Bwyd Gwell i Bawb yn cefnogi datblygiad iogwrt probiotig arloesol ac ymarferol. Darganfyddwch fwy gan Joseph.
Amdano David
Mae David yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn gweithio ar brosiectau Afallen, gan ganolbwyntio ar hyn o bryd ar lywodraethu da ar lefel Bwrdd.
Mae hefyd yn gefnogwr mawr o feddalwedd ffynhonnell agored a llwyfannau, ac yn gwneud gwaith pro-bono i helpu pobl i ddeall sut y gallant gymryd rheolaeth dros eu technoleg a chyfryngau cymdeithasol ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.
Yn ddiweddar ysgrifennodd erthygl i helpu i egluro rhai o’r cysyniadau hyn i sefydliadau trydydd sector.
Mae’n handi gyda dylunio gwe; ef yw gwefeistr y wefan hon ac un CSCC.
Rôl arall David yw fel Cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am CSCC yma.