Trwydded gymdeithasol i weithredu ar gyfer ffermydd gwymon

Rydym yn falch o fod yn gweithio ar Brosiect Madoc, astudiaeth ddichonoldeb i bennu a gwerthuso’r potensial i ddatblygu diwydiant yn seiliedig ar wymon wedi’i drin yn frodorol yng Nghymru.

Ariennir y prosiect hwn drwy Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.