The sun is low on the horizon, highlighting silhouettes of trees and a single person walking between them.

Parc Cenedlaethol Dinas Caerdydd; allech chi fod yn Gadeirydd newydd?

Mae mudiad Dinas Parc Cenedlaethol Caerdydd yn chwilio am berson brwdfrydig ac ysgogol i helpu i wneud Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf cyfeillgar i natur yn y byd.

Mae mudiad Dinas y Parc Cenedlaethol wedi hen ennill ei blwyf yn rhyngwladol, gyda Llundain ac Adeleide eisoes wedi’u cadarnhau fel Dinasoedd Parc Cenedlaethol, a sawl dinas arall fel Breda, Glasgow, Chattanooga a Southampton wedi’u rhestru fel Dinasoedd Parc Cenedlaethol ‘enwebedig’.

Mae Caerdydd wedi cymryd ei chamau cyntaf i ddod yn Ddinas Parc Cenedlaethol, ac yn awr yn chwilio am Gadair newydd i helpu’r mudiad ar y daith. Mae Afallen yn gefnogwr mawr i’r cysyniad a’r prosiect; ein Partner, David Clubb, oedd un o’r grymoedd y tu ôl i’r cysyniad yng Nghymru am nifer o flynyddoedd.

Mae’r disgrifiad swydd yn galw am rywun sydd:

  • Yn angerddol am natur a’r amgylchedd yng Nghaerdydd
  • Profiad o weithio mewn partneriaeth
  • Yn deall materion llywodraethu ar gyfer sefydliadau bach
  • Wedi’i rhwydweithio’n dda
  • Gall weithredu fel llysgennad ar gyfer y mudiad

Gallwch ddarllen y disgrifiad swydd llawn yma.