Amdano Afallen
Mae Afallen yn arwain ac yn cynghori unigolion, prosiectau, sefydliadau a chymunedau ar egwyddorion, strategaeth a chamau gweithredu datblygu cynaliadwy. Mae holl waith Afallen wedi’i ategu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Ffyrdd o Weithio a Nodau.
Mae Afallen yn fuddsoddwr gweithredol yng Nghymru, gan ail-fuddsoddi 10% o’n helw mewn cynigion cyfranddaliadau cymunedol. Mae ein partneriaid hefyd yn rhoi 10% o’u helw i achosion da bob blwyddyn.
Ein gwerthoedd
Credwn y gall busnes fod yn rym pwerus er daioni, a dylai ddangos gwerthoedd rhagorol ar draws pob maes gweithgaredd.
Rydym yn deall bod cymdeithas yn gryfach pan fydd pawb yn cael eu galluogi, eu cefnogi a’u grymuso i gyrraedd eu llawn botensial.
Gwyddom fod gweithio mewn partneriaeth ag eraill yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, yn cynhyrchu canlyniadau sy’n llawer mwy nag unrhyw un sector yn gweithio ar ei ben ei hun.
Rydym yn hyrwyddo’r defnydd o Creative Commons a datrysiadau ffynhonnell agored, ac rydym yn croesawu’r hawl i breifatrwydd ar-lein, yn rhydd o gyfalafiaeth gwyliadwriaeth.
Rydym yn ymrwymo 10% o’n helw i achosion da, a’n nod yw cefnogi datblygu cynaliadwy yng Nghymru a thu hwnt.