Ein Polisi Cymraeg

  1. Byddwch yn gallu cyrchu ein holl ddeunydd ar-lein, gan gynnwys y we a chyfryngau cymdeithasol, trwy gyfrwng y Gymraeg
  2. Byddwch yn gallu nodi eich dewis ar gyfer derbyn gwasanaeth Cymraeg gan Afallen ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau
  3. Byddwn yn defnyddio eich dewis iaith yn ein e-bost neu gyfathrebiad arall
  4. Byddwn yn cefnogi cydweithwyr a chymdeithion i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg, gan gynnwys trwy amser a neilltuwyd yn ystod y diwrnod gwaith. Manylir ar y cynnig hwn yn y llawlyfr staff

Diweddarwyd y polisi ddiwethaf ar 7 Rhagfyr 2023. Adolygiad nesaf; Rhagfyr 2025.