Dr David Clubb
Mae David yn aelod Bwrdd profiadol iawn, gyda phrofiad yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.
Mae’n hyfforddwr sydd wedi’i achredu gan Lantra, ac yn ddiweddar mae wedi cyflwyno cyrsiau ar-lein ar gyfer hyd at 200 o fyfyrwyr ysgol ar dechnegau dysgu uwch.
Dr Kul Verma
Mae Kul yn uwch ymgynghorydd ac yn awdurdod blaenllaw ar hyfforddiant a datblygiad sefydliadol. Gyda dros 34 mlynedd o brofiad yn gweithio ar hyfforddiant arweinyddiaeth, hyfforddi a newid sefydliadol, mae Kul wedi gweithio ar lefel genedlaethol a rhyngwladol yn darparu cymorth arbenigol i helpu sefydliadau i dyfu talent, arallgyfeirio eu gweithlu a thrawsnewid diwylliant.