Gofynnwyd i David Clubb, Partner Afallen, roi ei feddyliau am sut y gallai Meddalwedd Ffynhonnell Agored ac am Ddim (FOSS) helpu’r trydydd sector. Cyhoeddwyd yr erthygl hon gyntaf gan Newid.
Llun pennawd: Trwy garedigrwydd Marcus Winkler.
Beth yw meddalwedd ffynhonnell agored?
Mae meddalwedd ffynhonnell agored a rhydd (FOSS) yn gategori o feddalwedd sy’n dilyn egwyddorion rhyddid, a ddiffinnir yn benodol gan bedwar rhyddid craidd:
- Y rhyddid i redeg y rhaglen fel y dymunwch, at unrhyw ddiben
- Y rhyddid i astudio sut mae’r rhaglen yn gweithio, a’i newid fel ei bod yn gwneud eich gwaith cyfrifiadura fel y dymunwch
- Y rhyddid i ailddosbarthu copïau fel y gallwch ‘helpu eich cymydog’
- Y rhyddid i ddosbarthu copïau o’ch fersiynau diwygiedig i eraill
Er bod yr egwyddorion sylfaenol yn hollbwysig, yr hyn sydd bwysicaf i Fudiadau’r Trydydd Sector fel chi yw’r buddion ymarferol: gyda FOSS, ni fyddwch byth yn wynebu’r risg o gynnydd yng nghostau’r drwydded neu newidiadau annisgwyl o ran telerau. Mae hyn yn rhoi mwy o reolaeth a sefydlogrwydd i chi ar gyfer eich gwaith.
Mae mabwysiadu FOSS yn eich galluogi i newid ac addasu meddalwedd i’ch anghenion chi. Mae hyn yn fantais fawr i fudiadau sy’n gweithredu yng Nghymru oherwydd ei fod yn ei gwneud hi’n haws cyfieithu rhyngwyneb y defnyddiwr i’r Gymraeg. Mae gwneud hynny yn ystyriaeth hanfodol o ystyried ein hamgylchedd polisi ac anghenion ein defnyddwyr.
Manteision ac anfanteision meddalwedd ffynhonnell agored
Er bod y pedwar rhyddid sy’n gynhenid i FOSS yn sicrhau ei chost-effeithiolrwydd a’i photensial i addasu, ceir buddion ychwanegol sy’n ei gwneud yn ddewis apelgar i Fudiadau’r Trydydd Sector.
Mae rhai o’r manteision hyn yn cynnwys:
- Diogelwch: Gall natur dryloyw cod FOSS arwain at fwy o graffu, gan arwain at fwy o lygaid ar y cod i sylwi ar gamgymeriadau a gwell diogelwch i ddefnyddwyr terfynol.
- Ymgysylltu â’r gymuned: Mae prosiectau FOSS yn aml yn meithrin cymunedau bywiog o ddefnyddwyr a datblygwyr sy’n mynd gam ymhellach a thu hwnt i gefnogi newydd-ddyfodiaid. Mae’r ysbryd cydweithredol hwn yn arbennig o fuddiol pan fyddwch chi’n gallu helpu eraill drwy rannu eich arbenigedd eich hun ag eraill.
Er y gall lefelau cymharol isel o gymorth masnachol olygu dibynnu ar y gymuned am gymorth, mae hyn yn amlygu pwysigrwydd ystyried bywiogrwydd a lefel gweithgarwch y gymuned wrth ddewis meddalwedd FOSS. Yn ffodus, mae yna ffyrdd syml o fireinio wrth i chi chwilio ac i sicrhau eich bod yn dewis atebion ffynhonell agored sy’n cael eu cefnogi’n dda.
Dod o hyd i ddewisiadau amgen yn lle meddalwedd masnachol
Gall atebion FOSS gystadlu ac weithiau ragori ar eu cystadleuaeth fasnachol. Serch hynny, y rhwystr mwyaf i sefydliadau dielw fel arfer yw dod o hyd i ddewisiadau FOSS eraill, addas sy’n cyfateb i adnoddau masnachol cyfredol neu’n rhagori arnyn nhw. A dyma gyflwyno Alternativeto.net, platfform chwilio pwrpasol sy’n canolbwyntio ar feddalwedd a gwasanaethau gwe.
Er enghraifft, os ydych yn chwilio am ddewis amgen yn lle Adobe Illustrator, ewch i Alternativeto.net, teipiwch “Adobe Illustrator” i’r bar chwilio, ac archwiliwch yr opsiynau sydd ar gael. Mae Inkscape yn sefyll allan fel yr arweinydd amlwg ymhlith dewisiadau amgen FOSS yn lle Adobe Illustrator, gyda dros 2,000 wedi’i hoffi, yn ogystal â bod yn feddalwedd y gallaf dystio’n bersonol iddo!
Mae system hidlo Alternativeto.net yn eich galluogi i grynhoi eich canlyniadau drwy ddewis dewisiadau amgen i FOSS yn unig, gan roi arwydd clir i chi o boblogrwydd pob meddalwedd. Gall hyn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus wrth ddewis rhwng gwahanol atebion FOSS, gan sicrhau eich bod yn dewis un sy’n cael ei gefnogi’n dda ac sy’n boblogaidd ymhlith defnyddwyr.
Yn hytrach na cheisio rhagweld holl anghenion meddalwedd Mudiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru, rwy’n argymell archwilio Alternativeto.net i weld a all unrhyw awgrymiadau eich helpu i arbed arian neu wella ymarferoldeb. Mae’r arbrawf hwn yn fuddsoddiad mewn addysg a dysgu, sy’n hanfodol ar gyfer twf a datblygiad. O ystyried y bwlch cynhyrchiant yng Nghymru o’i gymharu â gwledydd eraill y DU, gall mabwysiadu dull archwiliol fel Alternativeto.net fod yn sbardun i Fudiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru ddatblygu eu capasiti a’u harbenigedd mewnol.
Hunan-letya eich gwasanaethau ar-lein eich hun
Hyd yma, rydyn ni wedi ymdrin â meddalwedd y gellir ei osod ar beiriannau unigol. Serch hynny, mae’r un mor bwysig ystyried adnoddau a all fod o fudd i’ch mudiad cyfan.
Dyma lle rydyn ni’n mentro i fyd ‘hunan-letya’ lle gallai Mudiadau’r Trydydd Sector deimlo’n ofnus i ddechrau. Serch hynny, mae rhai adnoddau gwych i symleiddio’r broses o letya gwasanaethau ar-lein yn sylweddol.
Un ateb hunan-letya rwy’n hoff iawn ohono ywPikapods. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig model tanysgrifio misol fforddiadwy sy’n symleiddio’r broses o leoli a chynnal a chadw gwahanol wasanaethau FOSS ar-lein ar gyfer eich mudiad. Mae’n cwmpasu cymwysiadau fel systemau desg gymorth, fforymau trafod, a meddalwedd cyfrifo. Rwy’n defnyddio Pikapods ar hyn o bryd ar gyfer gwe-ddadansoddi, gwasanaethau negeseua a rheoli rhestrau postio.
Rwy’n hoff iawn hefyd o Softaculous, sy’n aml yn cael ei gynnwys gyda gwasanaethau gwe-letya. Mae’r adnodd hwn yn ei gwneud hi’n anhygoel o hawdd i osod pecynnau FOSS fel gwefannau WordPress, offer anfonebu, platfformau e-fasnach, a rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol mewnol ar gyfer mudiadau. Os nad ydych chi’n defnyddio Softaculous yn barod, rwy’n argymell gofyn i’ch gwe-ddarparwr a ydyn nhw’n cynnig mynediad i’r nodwedd hon.
Sut gall FOSS adfywio hen gyfrifiaduron?
Fel maen nhw’n ei ddweud:
“Y ddyfais fwyaf cynaliadwy y gallwch chi fod yn berchen arni yw’r un rydych chi’n ei defnyddio ar hyn o bryd”
Yn anffodus, mae nifer o gwmnïau technoleg yn dylunio eu cynhyrchion gydag oes gyfyngedig mewn golwg, gan roi’r gorau i roi cymorth ar gyfer diweddariadau diogelwch ac, i bob pwrpas, gorfodi i ddyfeisiau gael eu newid yn hytrach na’u hadnewyddu neu eu hailddefnyddio.
Mae Linux yn cynnig ateb i hyn. System weithredu FOSS yw Linux sy’n pweru’r mwyafrif helaeth o weinyddion byd-eang, gan gynnwys y systemau ar yr Orsaf Ofod Rhyngwladol, lle mae bod yn ddibynadwy yn hollbwysig. Mae hefyd yn cael ei weld yn fwyfwy fel dewis amgen i systemau gweithredu Windows neu Mac ac yn dod yn blatfform gemau fideo pwysig ynddo’i hun.
Efallai bod Linux yn swnio’n dechnegol, ond nid oes rhaid i chi fod yn dechnegol i’w ddefnyddio. Yn ymarferol, gall systemau Linux weithio cystal, neu’n well na Windows neu Mac. Maen nhw’n addas iawn ar gyfer peiriannau hŷn sy’n cael trafferth gyda gofynion systemau gweithredu diweddaraf Windows.
Er enghraifft, gall systemau Linux:
- Fod yn gymharol ysgafn o ran ei ofynion caledwedd, angen llai o bŵer RAM a CPU yn gyffredinol i gyrraedd lefelau perfformiad tebyg
- Yn gyffredinol yn fwy diogel oherwydd natur agored y system weithredu, a’r nifer cymharol fach o firysau a grëwyd ar ei chyfer
- Ddim yn dod gyda llawer o feddalwedd ychwanegol diangen neu ddiflas
Erbyn hyn, caiff llawer o dasgau trefniadol eu cyflawni yn y cwmwl drwy borwr. Mae hyn yn lleihau rhwystrau i fudiadau sy’n ystyried mabwysiadu Linux fel system weithredu amgen ar gyfer peiriannu hŷn. Felly mae mabwysiadu Linux yn ffordd fwy cynaliadwy a diogel o leihau costau offer TG tra’n lleihau eich effaith amgylcheddol drwy ail-bwrpasu offer rydych eisoes yn berchen arnyn nhw.
Mae Ubuntu aLinux Mint yn ddosbarthwyr da i ddechreuwyr gan eu bod yn hawdd eu defnyddio ac mae ganddyn nhw gymunedau mawr o ran cymorth. Am rywbeth sy’n debycach i Windows, gallech roi cynnig arZorinOS.Dyma ganllaw diweddar ar sut i osod Linux ar un o hen gyfrifiaduron eich mudiad.
Fy awgrymiadau
- Anogwch eich cydweithwyr i arbrofi gyda gwahanol adnoddau neu systemau mewn amgylchedd diogel, er enghraifft drwy ddefnyddio darparwyr lletya sy’n gwneud copïau wrth gefn o’r systemau yn awtomatig bob dydd
- Dylech wastad ystyried dewis FOSS amgen wrth feddwl am ddefnyddio meddalwedd i ddatrys problem neu gynnig gwasanaeth newydd. Alternativeto.net yw’r wefan i droi ati ar gyfer y math yma o ymchwil
- Byddwch yn barod i ofyn am gymorth ar-lein os byddwch yn cael trafferth. Mae llawer o bobl sy’n gweithio ar brosiectau FOSS yn hapus i gynnig cymorth am ddim.
- Os ydych chi wedi profi ‘buddugoliaeth’ fawr drwy fabwysiadu FOSS, rhannwch eich profiadau gyda mudiadau eraill y Trydydd Sector er mwyn helpu i greu buddion ehangach i Gymru
- Dilynwch dudalen Tech4Good Cymru page ar LinkedIn i glywed am ddigwyddiadau yn y sector, ac i rwydweithio ac i ddysgu wrth fudiadau o’r un anian
Fy hoff adnoddau FOSS
- Systemau gweithredu Linux
- LibreOffice ar gyfer yr holl waith swyddfa
- Inkscape ar gyfer dylunio graffeg
- PorwrFirefox
- Platfformau cyfryngau cymdeithasol ffynhonnell agored fel Mastodon aPixelfed
- Logseq ar gyfer cofnodi, dysgu, cynllunio cyfarfodydd ac fel CRM personol
- Zulip ar gyfer negeseua tîm
- NextCloud fel dewis amgen i wasanaethau cwmwl Microsoft neu Google
Casgliadau
Mae FOSS yn cynnig ffordd i Fudiadau’r Trydydd Sector leihau costau gwneud busnes a darparu gwasanaethau. Gellir addasu FOSS, gan symleiddio’r broses gyfieithu yn fawr neu ddarparu addasiadau eraill sy’n angenrheidiol ar gyfer staff neu ddefnyddwyr gwasanaethau.
Er y gallai FOSS fod yn anghyfarwydd i lawer o ddefnyddwyr, mae miloedd o gymunedau brwd yn barod i gefnogi cyfranogwyr newydd. Mae hyn yn cynnig cyfle i ddysgu, a all helpu i yrru cynhyrchiant.
O ystyried y gost isel iawn o roi cynnig ar FOSS yn y gweithle, beth am roi cynnig arni; efallai y byddwch yn synnu eich hun gyda’r hyn y gellir ei gyflawni drwy ddefnyddio adnoddau sy’n croesawu cyfranogiad gan unrhyw un, waeth beth fo’u statws cymdeithasol, cefndir neu fodd ariannol.