
Astudiaeth achos: Hyfforddiant bwrdd
Partner Arweiniol: David Clubb
Darparu profiad dysgu deniadol ac awdurdodol
Cleient: Llywodraeth Cymru
Sector: Cyhoeddus
Cyflwyniad
Camodd Afallen i’r adwy ar fyr rybudd i gyflwyno cwrs hyfforddi ar gyfer aelodau presennol a darpar aelodau’r Bwrdd, gan gwmpasu pob agwedd ar gymhwysedd technegol, diwylliannol a rheoleiddiol
Y briff
Roedd Afallen mewn partneriaeth â Deep Insight a chafodd amserlen dynn iawn i gynhyrchu deunydd cwrs, recriwtio cyfranogwyr, a darparu hyfforddiant ar gyfer tri chwrs:
- Amrywiaeth a chynhwysiant (ar gyfer aelodau presennol Cyrff Cyhoeddus a reoleiddir yng Nghymru)
- Hyfforddiant gloywi Bwrdd (ar gyfer aelodau presennol Cyrff Cyhoeddus a reoleiddir yng Nghymru)
- ‘Arweinwyr Cyhoeddus y Dyfodol, ar gyfer pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig neu bobl anabl
Yr ateb
Defnyddiodd Afallen arfer da o bob rhan o sector Llywodraethu’r Bwrdd i greu adnoddau cyflwyno deniadol ac awdurdodol, wedi’u teilwra ar gyfer pob un o’r tair carfan.
Defnyddiwyd ein rhwydweithiau i roi cyhoeddusrwydd i’r cyfle i gymryd rhan mewn hyfforddiant, a oedd hefyd yn cael ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Buom yn llwyddiannus wrth recriwtio niferoedd da o gyfranogwyr ar gyfer pob un o’r cyrsiau a gynhaliwyd yn ystod Chwefror a Mawrth 2024. Roedd yr adborth o’r cyrsiau’n hynod gadarnhaol, gan ddangos lefelau uchel o ymgysylltiad a brwdfrydedd dros y dull gweithredu a oedd yn ymarferol ac yn fyfyriol iawn ei natur.