Map of Swansea County with various local food producers and users listed on it

Astudiaeth mapio bwyd lleol

Cleient: Cyngor Abertawe
Sector: Cyhoeddus

Cyflwyniad
Roedd Cyngor Abertawe eisiau deall mwy am gynhyrchu a chyflenwi bwyd yn lleol.
Darllen yr adroddiad


Y briff

Cynhyrchodd y prosiect hwn astudiaeth ddichonoldeb i lywio gwaith yn y dyfodol ar fwyd lleol; bu hefyd yn mapio cynnyrch lleol yn Abertawe, ac yn darparu argymhellion ar fyrhau cadwyni cyflenwi


Yr ateb

Adeiladodd Afallen dîm prosiect a oedd yn cynnwys ein Partner David Clubb a’n Cydymaith Katie Powis, Urban Foundry a’r Open Food Network, cynnal arolwg, cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb, a chyflwyno prosiect ymchwil manwl.

Un o ganlyniadau’r data a gafwyd o’r prosiect yw’r gallu i blotio rhai o’r cyflenwyr bwyd lleol ar fap ffynhonnell agored (gweler isod fel enghraifft).


Tysteb

“Mae Afallen yn wybodus ac yn hyderus o fewn y sector busnes ac yn gallu ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned honno. Mae hyn wedi golygu bod yr adroddiad a gomisiynwyd yn drylwyr ac yn flaengar.”

Jack Joseph – Cyngor Abertawe