Cefnogi arloesedd bwyd Cymreig

Mae Afallen wedi chwarae rhan ganolog wrth helpu i ddod â bwyd newydd i farchnadoedd Cymru.

Mae byrgyr madarch The Lion’s Mane wedi bod yn ychwanegiad poblogaidd yn y bwyty a’r siop goffi boblogaidd ‘Ground‘ yn Abertawe. Mae’r madarch yn cael eu cynaeafu yn Nhrimsaram, Sir Gaerfyrddin, a’u cyfuno â chynhwysion eraill i gynhyrchu dewis iach yn lle’r byrgyr cig traddodiadol.

Mae Afallen yn gysylltiedig â’r arloesedd hwn mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae Tetrim Tea yn un o’r partneriaid yn y cwmni cyflenwi madarch. Sefydlwyd Tetrim Tea gan Mari Arthur, partner yn Afallen.

Mae Afallen hefyd wedi rhoi cymorth ymarferol i ddatblygu’r cynnyrch newydd drwy ein rhan mewn prosiect InnovateUK, sy’n cael ei redeg drwy Brifysgol Aberystwyth.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddatblygu cynhyrchion bwyd swyddogaethol sy’n ymgorffori cynhwysion fel Lion’s Mane a all ddarparu buddion iechyd ychwanegol.

Dywedodd Joseph Kidd, o Afallen: “Er bod Lions Mane wedi bod yn creu bwrlwm ers tro, ei ymgorffori mewn bwydydd fel ei fod yn fwy hygyrch yw’r cam mawr nesaf. Mae sefydliadau fel Ground ar flaen y gad yn hyn o beth gyda datblygiad eu byrgyr – gan gyfuno blas gwych gyda buddion iechyd gwerthfawr.”


Llun: trwy garedigrwydd Wikipedia a Ground.