Llun: arwyddbost o Tafwyl (David Clubb)
Afallen a’r Gymraeg
Crëwyd Afallen am nifer o resymau. Rydym am gadw arian a sgiliau yng Nghymru. Rydym am helpu sefydliadau i ddeall, a gweithredu’n well, ffyrdd o weithio Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn cyflawni Nodau Cenedlaethau’r Dyfodol. Ac rydym am i’r Gymraeg fod yn iaith fyw fywiog, gynhwysol a ffyniannus, nawr ac ymhell i’r dyfodol.
Cymerwch gip ar Ein Gwerthoedd. Gallwch weld pa mor bwysig yw Cymraeg i ni. Rydym yn cynnig darpariaeth o’n holl wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ein gwefan ac allbynnau cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog. Rydym yn deall bod y Gymraeg ar gyfer pawb sy’n byw yng Nghymru, nid dim ond i’r rhai sy’n gallu ei siarad.
Dyna pam yr ydym am gefnogi mentrau sydd wedi’u hanelu at hyrwyddo’r Gymraeg, ac at godi ei phroffil mewn bywyd cyhoeddus.
Y ‘Cynnig Cymraeg’
Mae’r Cynnig Cymraeg yn fenter gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae’n cydnabod sefydliadau sydd wedi datblygu Cynllun Iaith Gymraeg sy’n ddigon credadwy ac y gellir ei weithredu i fodloni gofynion y Comisiynydd.
Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg wedi derbyn y gydnabyddiaeth hon. O ystyried ein proffil cryf trwy gyfrwng y Gymraeg, a’n hanes o gyflawni prosiectau ‘yng Nghymraeg’, roeddem yn hyderus o allu cwrdd â’r gofynion. Fodd bynnag, un peth yw bod yn hyderus o dderbyn y gydnabyddiaeth, peth arall yn gyfan gwbl yw cael y wobr!
Beth sydd nesaf?
Rydym yn awyddus i amlygu ein cynnig i fwy o gleientiaid sy’n awyddus i weithio gyda phartneriaid darparu drwy gyfrwng y Gymraeg. Deallwn hefyd fod Comisiynydd y Gymraeg yn cynllunio cronfa ddata gyhoeddus o sefydliadau sydd wedi pasio’r safon angenrheidiol i arddangos y Cynnig Cymraeg.
Hoffem weld swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn mynd gam ymhellach, ac yn gosod y gronfa ddata ar fap ar-lein, i hwyluso cyrchu data am ddarparwyr gwasanaethau lleol sy’n cyrraedd y safon. Mae hyn yn rhywbeth roedd ein Partner, David Clubb, yn blogio amdano flynyddoedd yn ôl. Cyn belled â bod y map yn adnodd ffynhonnell agored, wrth gwrs!
O ystyried ein profiadau gwych gyda mapio ffynhonnell agored, gan gynnwys y map hwn o rwydweithiau bwyd lleol Abertawe, ni fyddem ond yn hapus i gynnig ein cyngor i swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. Trwy’r Gymraeg, wrth gwrs!